Ganwyd Sant Cadoc tua 500 OC a sefydlodd y mynachdy yn Llancarfan a ddylanwadodd yn fawr ar Gristnogaeth ym Morgannwg. Pan ddaeth i'r ardal hon efallai y gwelodd bentref bychan wedi ei leoli o gwmpas ffynnon. Byddai'r trigolion yn ffermio'r tir o dan oruchwyliaeth y pennaeth oedd yn byw yn Llwyndaddu. Ffurfiodd Catwg Ddoeth gell Cristnogol yn agos at y ffynnon a elwir nawr yn Ffynnon Catwg a gelwir y nant sy'n codi o'r ffynnon yn Nant Gwladus - ar ôl ei fam.