Creigiau - Pentyrch - Capel Llanilltern - Gwaelod y Garth

 
 

Hanes Pentyrch History

Creigiau

Fferm Creigiau a roddodd ei enw i'r orsaf rheilffordd.

 

Cwlblhawyd y rheilffordd yn 1889 a chludwyd dros
miliwn o dunelli o lo yn y flwyddyn gyntaf. Cychwynwyd cario teithwyr o orsaf Creigiau yn 1896 a rhedodd y trên olaf ar 10 Medi 1962.

Coed Creigiau, Station Terrace a Ffynnon Dwym yn 1910.

 

 

 

Ymhen ychydig flynyddoedd ar ôl agor yr orsaf rheilffordd roedd gan Greigiau swyddfa bost, dau siop groser, siop de, modurdy a neuadd yr eglwys a chlwb golff.