Roedd Pentyrch yn 19ed ganrif yn fwrlwm o fywyd gwledig a diwydiannol.Yn aml roedd y ddau yn cydredeg. Roedd gwaith yn galed iawn ar y tir amaeth, hefyd yng ngwres y gwaith haearn ac wrth weithio yng nghrombil y Garth yn y mwynfeydd glo peryglus.
Er gwaetha'r baich drom o ennill bywoliaeth roedd pobl yn cael amser i addoli ac i ddilyn gweithgareddau diwylliannol a hamdden.
Ar ganol y 19ed ganrif adeiladwyd nifer o derasau o dai cerrig ar gyfer gweithwyr y gwaith haearn a'r coliers; roedd rhain yn ychwanegu at y cartrefi un-llawr to-gwellt o oeasu blaenorol.
Roedd Helfa Pentyrch o dan reolaeth y Colonel Lewis o Grenmeadow ar ei anterth; roedd safon uchel iawn i'r cwn hela dan ofal Daniel Williams o Llwyndaddu.
Yna daeth y rygbi a chriced. Roedd y Prifathro Morgan Thomas o'r Ysgol Bwrdd yn allweddol wrth sefydlu'r chwaraeon yn y 1880au.