Y dystiolaeth archeolegol gynharaf yn yr ardal yw'r Gromlech yng Nghaeryrfa, Creigiau. Mae'n dangos fod pobl Neolithic wedi ymgartrefu yn yr ardal tua 6,000 o flynyddoedd yn ôl, tua 1,500 o flynyddoedd cyn cyfnod Côr y Cewri.
Cliriwyd y coedwigoedd yn yr ardal ar gyfer ffermio a magu anifeiliaid gan deuluoedd y rhai a gladdwyd yn y Tomenni Crwn ar ben y Garth 4000 o flynyddoedd yn ôl.
Mae olion dwy gaer o'r Oes Haearn tua 2500 o flynyddoedd yn ôl yn Llwyndaddu a Chraig y Parc.
Darganfyddwyd crochenwaith ag arfau pobl oedd yn byw yn yr ogofau yn y Garth Isaf.
Mae olion gweithfeydd haearn y Rhufeiniaid ar ben y Garth Fach.
Wrth gloddio yn Chwarel y Garth Isaf yn 1965 darganfuwyd darnau o waith metel o'r Oes Haearn. Yn eu plith oedd terret o waith efydd ac enamel cain o gyfnod canrif CC. Mae'n un o'r darnau harnes mwyaf a thlysaf o'r cyfnod hwn ym Mhrydain.