Creigiau - Pentyrch - Capel Llanilltern - Gwaelod y Garth

 
 

Hanes Pentyrch History

Capel Llanilltern

Rhestrir Eglwys Capel Llanilltern yn llyfr Trethiant Norwich 1254 ac roedd yn gapeliaeth ym mhlwyf Sain Ffagan. Cysegrwyd i Ellderyn, brawd neu fab Vortigern. Ailadeiladwyd yr eglwys bresennol yn 1862 ond gwarchodwyd nifer o'r hen greiriau o'r hen eglwys gan gynnwys Carreg Vendumaglus o'r 6ed/7ed ganrif. Mae'r bedyddfaen gwreiddiol o'r 12ed ganrif wedi goroesi.      

Mae Carreg Vendumaglus yn un o saith cofadail ôl-Rufeinig Cristnogol o'r 5ed - 7ed ganrif a ddarganfuwyd ym Morgannwg. Mae'n darllen VENDVAMAL-HIC IACET, o'i gyfieithu 'O Vendumaglus: yma gorwedda'.  Nid oes gennym syniad pwy oedd  Vendumaglus ond mwy na thebyg roedd naill ai yn offeiriad neu berson mor adnabyddus yn ei gyfnod fel nad oedd angen rhoi enw ei dad.

Cynhaliwyd cyfarfodydd y Cyngor Plwyf yn Neuadd yr Eglwys hyd 1974.