Roedd gan y Bedyddwyr, Annibynwyr, Calfiniaid a Wesleaid ddilynwyr yn yr ardal. Roedd bron pawb o gynulleidfaoedd y capeli yn siarad Cymraeg.
Capel Bronllwyn (Annibynwyr), Pentyrch, adeiladwyd yn 1858. Adeiladwyd Neuadd y Pentref ar y safle yn 1976. |
Sefydlwyd Capel Taihirion ger Rhydlafar, y capel anghyffurfiol cyntaf yn yr ardal, yn 1760. Fel “Philadelphia” y byddai pobl Pentyrch yn cyfeirio at y lle. Erbyn tua 1829 llwyddwyd i godi adeilad newydd a bu'r aelodau gweithgar yn gyfrifol am sefydlu nifer o gapeli yn yr ardal. |
Penuel, Capel y Bedyddwyr, Pentyrch. Fe'i adeiladwyd yn 1838 ac fe'i ehangwyd yn ddiweddarach i eistedd 700 o addolwyr. Nawr mae'n weithdy offerynnau cerddorol. |
Capel Bethlehem (Annibynwyr) Gwaelod y Garth. Adeiladwyd yn 1832. |
Capel Horeb (Methodistiaid Calfinaidd), Pentyrch, a adeiladwyd yn 1839 a'i ehangu yn 1863. Drwy Gymdeithas y Rechabites arweiniodd Horeb yr ymgyrch Ddirwestol lleol. Fe'i addaswyd yn stiwdio recordio yn 2008. |
Sefydlwyd yr English Mission yn 1895 i ddarparu gwasanaethau Saesneg i'r nifer cynyddol o'r di-Gymraeg a ddaeth i fyw i'r ardal. Cynhaliwyd y gwasanaeth olaf yn 2008. |