Cliriwyd y coedwigoedd yn yr ardal ar gyfer amaethu a chadw anifeiliaid gan deuluoedd y rhai a gladdwyd yn y Tomenni Crwn ar ben Mynydd y Garth dros 4000 o flynyddoedd yn ôl. Yna bu’r ardal o dan ddylanwad y Celtiaid a lluoedd arfog Rhufain.
Mae daeareg yr ardal yn cynnwys brigo ochr ddeheuol y mesurau glo, llain galchfaen carbonifferaidd sy'n croesi o'r gogledd ddwyrain i'r de-orllewin ac ardal bach o galchfaen Oolitic sy'n nodweddiadol o ddeareg Bro Morgannwg. Ansawdd da y tir yn y Fro a ddenodd ffermwyr i'r ardal miloedd o flynyddoedd yn ôl ac nid drwy ddamwain y sefydlwyd Castell y Mynach, y tŷ hynaf ac o bell ffordd y mwyaf pwysig ym Mhentyrch.
Gellir olrhain perchnogaeth nifer o'r ffermydd yn yr ardal i deulu Hywel ap Meredith, yr Arglwydd Meisgyn Cymreig olaf. Fe'i orchfygwyd gan Richard de Clare yn 1246. Ond fe barhaodd yr Arglwyddi Cymreig i gadw eu tir ar yr amod eu bod yn cydweithio â'r Normaniaid.
Disgrifir perchnogaeth y tir yn Manor of Pentyrch gan J.Barry Davies. Vol III No. 5