Creigiau - Pentyrch - Capel Llanilltern - Gwaelod y Garth

 
 

Hanes Pentyrch History

Byw yn yr Ogofau

 

 

Darganfyddwyd llawer o waith serameg a metel mewn ogofau ar y Garth Isaf. Maent yn creu darlun o bobl yn defnyddio teclynnau o bob math i gynorthwyo gyda'r gwaith o hela ac amddiffyn eu hunain. Yn eu plith mae teclynnau fflint o'r cyfnod Neolithic,  crochenwaith o'r Oes Efydd a gwaith metel o'r un cyfnod ac o gychwyn y cyfnod Rhufeinig.    

Disgrifir y teclyn hwn o'r Oes Efydd fel bwyell palstaf. Mae'r palstaf yn ben ar declyn gyda phaladr hir ac yn hytrach na'i ddefnyddio fel bwyell i dorri drwy pren fe'i ddefnyddid fel cŷn neu i gafnu pren ac hefyd i geibio. Byddai'r paladr wedi ei fforchio a'i gadw mewn lle gan fflans uchel a baryn.