Mae mwyn haearn i'w gael yn y Calchfaen Carbonifferaidd sy'n rhedeg o'r dwyrain i'r gorllewin o Rhydri i Lanhari. Mae'r trwch tenau o fwyn haearn o fath a elwir Haematite yn gorwedd mewn gwythiennau. Mae mwyn haearn wedi ei gloddio ers oes y Rhufeiniaid o bwll ar ben y Garth Fach. Yn ystod cyfnod o ehangu'r gwaith yn y 19eg ganrif gyrrwyd ceuffyrdd i mewn i ochr y bryn ac roedd dros 200 o bobl yn gweithio yn y twneli a'r siafftiau yn cloddio 600,000 tunnell o fwyn haearn. Daeth y gwaith i ben yn y 1930au. |
Y pwll mwyn haearn yn y Garth Fach. |
Mynediad i geuffordd a agorwyd yn 1842 |
Golygfa o geudwll enfawr yn y pwll. |