Mae olion rhai o'r ffyrdd cynharaf a ddefnyddiwyd adeg y Rhufeiniaid i'w gweld ar fynydd y Garth. |
Defnyddiwyd mulod i gario glo o ardal Efail Isaf i Radur a Chaerdydd dros Bwlch y Gwynt a Soar, trwy Bentyrch ac heibio Cefn Colstyn. |
Am filoedd o flynyddoedd y ceffyl oedd y prif fodd o drafnidiaeth a dim ond yn y 19ed ganrif y dechreuodd unrhyw newid sylweddol. Am ganrifoedd cludwyd glo a haearn tua'r de o'r cymoedd gan resi o fulod. Datblygwyd y rheilffyrdd i gludo glo a defnyddiau i'r dociau yng Ngaerdydd a'r Barri ac fe ddaeth yn ffordd poblogaidd o gludo teithwyr. Yn yr ugeinfed ganrif daeth y car modur i roi modd newydd i deithio gan alluogi datblygu'r pentrefi. |