Creigiau - Pentyrch - Capel Llanilltern - Gwaelod y Garth

 
 

Hanes Pentyrch History

Y Gymraeg

Wrth ystyried ei agosrwydd at Gaerdydd, dref seisnigedig, yr oedd goroesiad yr iaith Gymraeg yn y plwyf yn bell i mewn i’r ugeinfed ganrif yn ffaith anhhygoel. Yn ôl y cyfrifiad 1901 roedd dros 400 o drigolion yn uniaith Cymraeg.  Bron hanner canrif yn ddiweddarach roedd dros ddau gant o siaradwyr Cymraeg yn y pentref uchaf yn unig.  Tafodiaith y brodorion oedd Gwenhwyseg’ (iaith dwyrain Morgannwg a Gwent).  Gall ynysoldeb  y cymuned lleol fod yn un o’r rhesymau am y goroesiad yma. Mae dywediadau fel “Bit Rhyddoch chwi gwyr Pentyrch” a “Rhwng gwyr Pentyrch a’i gilydd” sy’n dra hysbys trwy Gymru gyfan yn awgrymu mai beth da yw cadw llonydd i’r bobl yma!  Dim byd yn ymwneud a’t iaith wrth gwrs oherwydd y ffaith bod y teimlad drwg yn rhywbeth oesol.  Bu pennillion yn condemnio pobl leol yn niferus.  Dyma farn pobl Bro Morgannwg:
"Pan fo Pentyrch yn llawan
Heb falais na chenfigan
Fe fydd yr ieir yn nofio'r llyn
A figys ar y ddraenen."

Mae’r mwyafrif helaeth o enwau strydoedd a thai preifat wedi bod yn y famiaith. Roedd cymdeithasau fel yr ‘Iforiaid’ yn nhafarn y ‘Colliers’ a’r Odyddion’ yn y ‘Kings’ yn selog dros achos yr hen iaith.  Yr oedd hen ddefodau fel y Fari Lwyd yn sicrhau defnydd o’r dafodiaith.  

Daeth derfyn i’r Wenhwyseg ym Mhentyrch ei hunan yn sydyn – serch hynny, yng Ngwaelodygarth parhaodd y dafodiaith ychydig yn hirach trwy gymorth Capel Bethlehem.

Dywedodd yr Athro adnabyddus Griffith John Williams:  “Bu Pentyrch erioed yn enwog am ei Gymreigrwydd, am ei sêl dros bopeth Cymreig.  Pan oedd yr ardaloedd cylchynol yn cael eu boddi gan fôr o Seisnigrwydd, parhaodd yr iaith yma yn hoyw ac yn dirf.”  Hyd at 1974 pan cymerodd Cyngor Cymuned Pentyrch lle’r cyngor Plwyf roedd y cofnodion yn ddwyieithog.

Griffith John Williams