Mae Tomenni Claddu y Garth yn dyddio o cyfnodau Cynnar a Chanol yr Oes Efydd - tua 2,000CC.
Rhestrwyd y carneddi hyn yn henebion yn rhestr Oes Cerrig ac Oes Efydd o safleoedd hynafol CADW. |
|
Mae Mynydd y Garth yn codi i uchder o mil a naw o droedfeddi uwchben lefel y môr oherwydd fod tomen claddu hynafol ar y pwynt uchaf. Mae'r Garth wedi bod yn ganolog i fywyd yr ardal ers cyn hanes. Roedd y tomenni Oes Efydd wedi bod yno dros 2000 o flynyddoedd cyn i'r Rhufeiniaid gyraedd. Drwy'r oesau daeth y mynydd yn gyrchfan i baganiaid a chrefyddwyr i chwilio am dir uchel i addoli. Dros y canrifoedd mae wedi cael ei ffermio a'i gloddio am fwynau.
|