Creigiau - Pentyrch - Capel Llanilltern - Gwaelod y Garth

 
 

Hanes Pentyrch History

Casgliad William Evans

Williams EvansShop

Darganfyddwyd yn y llofft uwchben stablau siop y pentref – casgliad eithriadol o ddogfenau sy’n disgrifio’n uniongyrchol bywyd pentrefol yn yr oes Fictoria. Yr oedd y siopwr, William Evans wedi cadw papurau di-rif yn berthynol i’w fusnes, ei deulu a phentrefwyr yn cynnwys yr offeiriad, yr ysgolfeistr, y postfeistr a sawl arall.  Heblaw archebion nwyddau ty ac anfonebau cyflenwyr mae llythyrau oddiwrth ei blant yn eu hysgolion preswyl.  Caiff tlodi llym a chyfoeth ill dau eu disgrifio, ond hefyd, haelioni y tu hwnt.

 

William Evans Bills