Yn gynnar yn y 19ed ganrif daeth y mudiad dirwestol yn amlwg yn y plwyf. O'r 1830au ymlaen am rai degawdau llewyrchodd Cymdeithas Dirwest Pentyrch ond roedd cymaint o wrythwynebwyr â chefnogwyr. Ymhlith yr arweinwyr amlwg yn y ddadl hwn (a rhai eraill) roedd Charles Prichard yr ysgol-feistr lleol gwybodus, felly hefyd ei wrthwynebydd, Horatio Thomas, ficer Pentyrch o 1839 i 1882. Tra roedd Prichard, Bedyddiwr pybyr, yn gyson yn ei sêl a'i gondemniad o'r ddiod gadarn, roedd ficer y plwyf wedi newid ochr mwy nag unwaith!