Creigiau - Pentyrch - Capel Llanilltern - Gwaelod y Garth

 
 

Hanes Pentyrch History

Tai Llanilltern

Pencoed yw'r tŷ hynaf yn y pentref yn dyddio o'r 14edd ganrif. Fe'i ail-adeiladwyd yn y 15fed ac yna yr 16ed ganrif ond mae bwa mynedfa hyfryd yn parhau o'r adeilad gwreiddiol. Mae'r enw Pencoed yn nodi fod yr adeilad wedi ei godi ar ffin Parc Coed Marchan a oedd yn goedwig o dan arglwyddiaeth Meisgyn.   

Roedd Tŷ Capel hyd canol y 19ed ganrif yn dafarn leol. Y tafarnwr cyntaf i gael ei gofnodi oedd Rowland Carey, y trwyddedwr o thua 1730.   

 

Yn wreiddiol roedd dau dŷ o fewn adeilad Llanfair Fach a adeiladwyd yn y 17ed ganrif.

Tafarn y Star a adeiladwyd yng nghanol y 19ed ganrif. Y dafarn leol hyd nes cychwynwyd adeiladu'r draffordd yn 1980.