Creigiau - Pentyrch - Capel Llanilltern - Gwaelod y Garth

 
 

Hanes Pentyrch History

Rheilffyrdd

Rheilffordd gwaith haearn Gwaelod y Garth  a'r ffrwd a thraphont Rheilffordd y Barri. 

Princess May,  un o'r injans stêm fyddai'n tynnu'r wageni yn ffowndri  Gwaelod y Garth.

Os oedd agor Camlas Morgannwg yn 1795 yn gam enfawr ymlaen i gludo mwynau yna roedd cychwyn y Taff Vale Railway yn yr 1840au yn chwyldroadol. Datblygodd y rhwydwaith rheilffyrdd rhwng y Garth a Chraig yr Allt yng Nghwm Taf yn gymhleth dros ben gyda cystadlu brwd rhwng y cwmniau rheilffyrdd.

Roedd y rheilffyrdd yn gwasanaethu Cwm Taf o Ferthyr Tydfil a'r Rhondda, Rheilffordd Caerdydd, Rheilffordd Rhymni a Rheilffordd y Barri. Datblygwyd Rheilffordd y Barri yn yr 1880au pan adeiladwyd y Walnut Tree Viaduct ar draws Cwm Taf yng Ngwaelod y Garth ac agorwyd  rheilffordd newydd o'r Barri i'r Rhondda drwy'r Creigiau.