Teulu Saunders oedd yn gyfrifol am y fferi am flynyddoedd lawer. Bu farw Mrs Saunders, yn y llun, wedi iddi gael ei hysgubo i lawr yr afon gan lif cryf yn y 1920au. |
Adeiladwyd y gored yn 1790 i gyflenwi dŵr i efail Pentyrch. Fe'i thynnwyd i lawr yn niwedd y 1960au. |
Y Mission Hall a thai y New Level rhwng yr afon Taf a'r ffrwd ddŵr. |
Ym mis Ebrill 1926 cysylltwyd dwy gymuned - Ffynnon Taf a Gwaelod y Garth gan Bont Sion Phillip. Enwyd y bont ar ôl John Phillips a oedd yn gadeirydd Cyngor Dosbarth Gwledig Caerdydd ar y pryd.
|