Adeiladau Glofa'r Llan ar y gwaelod dde. Roedd y lofa yn gweithio gwythien y Brass and Forked tua 700 llath i mewn i'r mynydd. |
Dechreuodd Glofa Tyncoed weithio yn 1895 a gorffennodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf tua 1915. |
Lladdwyd deuddeg o ddynion a bechgyn yn y ffrwydrad yng Nglofa'r Llan ar 6ed Rhagfyr 1875. Roedd 300 o ddynion yn gweithio yn y lofa gyda 150 yn y pwll y diwrnod hwnnw. Fel arfer roedd y withïen Brass yn cael ei awyru yn dda a defnyddid golau noeth i weithio. Ond tarodd un o'r dynion dwll i mewn i ofod nwy a ruthrodd allan a ffrwydro. |
Y brif allanfa (yr uchaf) o lofa South Cambria oedd yn arwain i reilffordd llethr yn ymuno â man llwytho rheilffordd y Barry. |