<!–:en–>Mission Statement<!–:–><!–:cy–>&lt;!–:en–&gt;Mission Statement&lt;!–:–&gt;&lt;!–:cy–&gt;&amp;lt;!–:en–&amp;gt;Mission Statement&amp;lt;!–:–&amp;gt;&amp;lt;!–:cy–&amp;gt;&amp;amp;lt;!–:en–&amp;amp;gt;Mission Statement&amp;amp;lt;!–:–&amp;amp;gt;&amp;amp;lt;!–:cy–&amp;amp;gt;&amp;amp;amp;lt;!–:en–&amp;amp;amp;gt;Mission Statement&amp;amp;amp;lt;!–:–&amp;amp;amp;gt;&amp;amp;amp;lt;!–:cy–&amp;amp;amp;gt;&amp;amp;amp;amp;lt;!–:en–&amp;amp;amp;amp;gt;Mission Statement&amp;amp;amp;amp;lt;!–:–&amp;amp;amp;amp;gt;&amp;amp;amp;amp;lt;!–:cy–&amp;amp;amp;amp;gt;&amp;amp;amp;amp;amp;lt;!–:en–&amp;amp;amp;amp;amp;gt;Mission Statement&amp;amp;amp;amp;amp;lt;!–:–&amp;amp;amp;amp;amp;gt;&amp;amp;amp;amp;amp;lt;!–:cy–&amp;amp;amp;amp;amp;gt;&amp;amp;amp;amp;amp;amp;lt;!–:en–&amp;amp;amp;amp;amp;amp;gt;Mission Statement&amp;amp;amp;amp;amp;amp;lt;!–:–&amp;amp;amp;amp;amp;amp;gt;&amp;amp;amp;amp;amp;amp;lt;!–:cy–&amp;amp;amp;amp;amp;amp;gt;Datganiad Cenhadaeth&amp;amp;amp;amp;amp;amp;lt;!–:–&amp;amp;amp;amp;amp;amp;gt;&amp;amp;amp;amp;amp;lt;!–:–&amp;amp;amp;amp;amp;gt;&amp;amp;amp;amp;lt;!–:–&amp;amp;amp;amp;gt;&amp;amp;amp;lt;!–:–&amp;amp;amp;gt;&amp;amp;lt;!–:–&amp;amp;gt;&amp;lt;!–:–&amp;gt;&lt;!–:–&gt;<!–:–>

CYNGOR CYMUNED PENTYRCH

 

DATGANIAD CENHADAETH 

“Amcan y Cyngor Cymuned yw gwella ein hamgylchedd, cyfoethogi ansawdd bywyd a chadw’r amrywiaeth o fywyd lleol. Bydd y Cyngor yn ymdrechu i warchod cymeriad gwledig y pedwar pentref a chadw eu hunaniaeth leol “.

Y CYNGOR 

Mae Cyngor Cymuned Pentyrch yn gwasanaethu pentrefi Pentyrch, Creigiau yn cynnwys Capel Llanilltern, a Gwaelod y Garth. Mae 13 Cynghorydd ar y Cyngor, 6 yn cynrychioli Pentyrch, 5 yn cynrychioli Creigiau a 2 yn cynrychioli Gwaelod y Garth. Cynrychiolir yr ardal ar Gyngor Sir Caerdydd gan ddau Gynghorydd. Un ar gyfer Ward Pentyrch a Gwaelod y Garth ac un ar gyfer Ward Creigiau a Sain Ffagan. (Mae Cyngor Cymuned ar wahân ar gyfer Sain Ffagan).

Fel pob awdurdod lleol mae Cyngor Cymuned Pentyrch yn gweithredu drwy bwyllgorau. Mae’r Cyngor llawn yn cyfarfod unwaith y mis (heblaw am fis Awst) – fel arfer ar drydydd dydd Llun y mis – pryd y trafodir y rhan fwyaf o fusnes arferol y Cyngor. Hysbysebir y cyfarfodydd ymlaen llaw a gwahoddir y cyhoedd i fod yn bresennol. Mae lle ar yr Agenda i’r cyhoedd gael datgan ar unrhyw fater sydd wedi codi. Mae lleoliad y cyfarfod yn newid yn dymhorol rhwng y tri phentref (fel arfer Ionawr, Chwefror, Mawrth yn Neuadd y Pentref Gwaelod y Garth, Ebrill, Mai, Mehefin, Gorffennaf yn y Pafiliwn Maes Chwaraeon yn Creigiau a Medi, Hydref, Tachwedd a Rhagfyr yn Neuadd y Pentref Pentyrch).

Ariennir y Cyngor yn llwyr drwy’r Treth Cyngor ac yn wahanol i’r Cyngor Sir, ni dderbynnir unrhyw Grant o’r Llywodraeth. Cesglir incwm bychan oddi wrth fforddfraint. Mae’r Cyngor yn cyflogi tri gweithiwr swyddfa rhan-amser, un Swyddog Cynnal a Chadw y Gymuned llawn amser ac un rhan amser. Mae’n gwasanaethu poblogaeth o dros 6,000 o drigolion.

SWYDDOGAETHAU

Mae’r Cyngor Cymuned yn ymgymryd â’r swyddogaethau canlynol:- darparu maes-gerddi, cynnal a chadw dwy fynwent, darparu a chynnal ardaloedd agored (mae’r Cyngor Cymuned yn berchen ar Comin y Garth), cynnal pedwar coedlan gymunedol, darparu a chynnal cyfarpar chwarae ar ddau faes chwarae, cynnal a rheoli Maes Chwarae Creigiau, cynnal a chadw Pwll Broga Creigiau a chynnal nifer o ardaloedd o laswellt yn y pentrefi. Yn ogystal mae’r Cyngor yn darparu a chynnal nifer o’r seddi cyhoeddus a’r hysbysfyrddau yn yr ardal.

Mae’n gweithredu ar ran trigolion lleol i ddod a phwysau ar y Cyngor Sir i wneud ei ddyletswyddau a chyfrifoldebau yn arbennig ynglŷn â ffyrdd, llwybrau, Hawliau Tramwy Cyhoeddus, glanhau’r strydoedd a darparu cyfleusterau. Mae’n ceisio hybu a chefnogi gweithgareddau hamdden ac elusennol gwirfoddol lleol ac mae ganddo ddiddordeb mewn unrhyw fater sy’n effeithio ar fywydau trigolion lleol. Mae’r Cyngor Cymuned yn rhan o’r broses ymgynghori ar bob cais cynllunio ac mae’n datgan barn ar gynlluniau datblygu lleol a rhanbarthol.

 

ASEDAU Y CYNGOR CYMUNED

Pentyrch 

Coedlan Cefn Bychan/Fairmeadow                         6.6 erw                            

Tir Neuadd y Pentref Pentyrch                                                                         

Parc Coffa, Pentyrch                                                 0.6 erw

Comin y Garth                                                       242.0 erw                            

Mynwent Bronllwyn, Pentyrch                                             

Ardaloedd agored Ael y Bryn/Lon y Fro                                                          

Swyddfa Heddlu Pentyrch                                                                               

                                                                                               

Creigiau 

Coedlan Parc Y Felin, Creigiau                                                                         

Coedlan y Teras, Creigiau                                                                                 

Ardaloedd agored Castell y Mynach                        3.7 erw                            

Maes Chwarae Creigiau                                          10.0 erw

Gwaelod y Garth

Coedlan Garth Villa

Hefyd mae gan y Cyngor Cymuned casgliad helaeth o hen gardiau post ac arddangosfa o waith Crochendy Creigiau. Ac mae’n ystyried defnyddio swyddfeydd y Cyngor fel amgueddfa hanes lleol. 

SIARTER CWSMER 

Bydd Cyngor Cymuned Pentyrch yn ymdrechu i ddarparu safon uchel o wasanaeth ym mhob agwedd o waith cyhoeddus y Cyngor, yn ysgrifenedig ac ar lafar. Bydd safon y gwasanaeth yn cael ei adolygu yn rheolaidd gyda’r nod o wella’r safon yn barhaol.

TRAFOD GYDA’R CYHOEDD

  • Y targed ar gyfer ateb i ohebiaeth ysgrifenedig yw o fewn 15 diwrnod gwaith o dderbyn y llythyr gwreiddiol. Os yw’r pwnc yn cael ei gyfeirio at y Cyngor llawn yna bydd y danfonwr yn cael ei hysbysu o hynny.
  • Ymdrinnir â phob neges/galwad teleffôn yn brydlon ac yn effeithiol. Os nad oes ymateb derbyniol ar gael yn syth bydd y staff yn ymdrechu i gael y wybodaeth sydd ei angen cyn gynted ag y bo modd.
  • Cyferchir pob galwad ffôn yn ddwyieithog.
  • Mae gwasanaeth yn Gymraeg ar gael os oes angen.
  • Bydd swyddfa y Cyngor ar agor i’r cyhoedd rhwng 9.00yb ac 1300 ddydd Llun i ddydd Gwener.
  • Bydd unrhyw gŵyn am weithgaredd y Cyngor yn cael ei drafod gan y Clerc yn y lle cyntaf a rhoddir gwybod i’r Cyngor llawn yn y cyfarfod misol dilynol. Os nad yw’r Clerc yn gallu delio gyda’r cwyn rhoddir y mater i’w ystyried gan y Cyngor llawn.

Mae’r Cyngor wedi mabwysiadu Cynllun Iaith Gymraeg sy’n anelu i:-

  • Ymdrin â’r iaith Gymraeg a’r iaith Saesneg ar sail gyfartal.
  • I alluogi pawb sy’n derbyn neu ddefnyddio gwasanaethau’r Cyngor i gael y cyfle i wneud hynny drwy gyfrwng y Saesneg neu’r Gymraeg.
  • I ddarparu safon gwasanaeth cyfartal effeithiol yn y ddwy iaith.
  • I hybu’r defnydd o’r iaith Gymraeg yn ardal y Cyngor.