|
|
|
|
|
Ffynnon Taf i Ben y Garth 4.5 milltir, tua 2 awr
O orsaf y rheilffordd, trowch i'r dde ar hyd y brif ffordd drwy'r pentref i'r gerddi cyhoeddus ar y llaw chwith. Y tu ôl i'r gerddi mae adeilad brics, sgwâr, sef lleoliad Ffynnon Taf ei hun.
Mae'r dwr o'r ffynnon danddaearol yn debyg o ran cyfansoddiad i ddyfroedd ffynhonnau Caer Faddon. Yn niwed l9eg ganrif, wrth i'r rhwydwaith rheilffyrdd ehangu, ceid pobl leol yn agor eu drysau i gynnig llety i'r llu o bobl a ddoi i ymweld â'r "dref ffynhonnau lleiaf yn y byd". Parhaodd y ffynnon yn boblogaidd yn yr 20fed ganrif; ym 1929 fe'i hadnewyddwyd ac adeiladwyd pwll nofio ar dir cyfagos, ond rhoddodd llifogydd 1950 derfyn ar ei gyrfa.
Dilynwch y llwybr llaw chwith rhwng Tafarn Ffynnon Taf a'r ysgol, croeswch y bont a cherddwch i fyny'r grisiau. Gogwyddwch i'r chwith i fyny'r llwybr igam ogam a throwch i'r dde, i mewn i bentref Gwaelod y Garth.
Mae'r dreflan fechan hon yn dal i gynnwys nifer o hen fythynnod sy'n dal mewn cyflwr da; adeiladwyd rhai ohonynt yn wreiddiol ar gyfer gweithwyr yn y diwydiannau haearn a brics lleol. Er gwaethaf ei chymeriad gwledig, ecsbloetiwyd yr ardal yn y gorffennol am ei hadnoddau naturiol, yn enwedig mwynau haearn, a gloddid o'r rhwydwaith o wythiennau cyfoethog yn yr ardal. Yn niwedd yr l6eg ganrif sefydlwyd ffwrnesi haearn ar safle ger yr afon, gan gychwyn tuedd a barhaodd yng ngweithgareddau ehangach Cwmni Haearn Pentyrch a roes y gorau i gynhyrchu yn y 1890au.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Trowch i'r chwith wrth ochr Tafarn Gwaelod y Garth a pharhau tuag i fyny ar hyd llwybr garw sy'n arwain at gamfa a chlwyd. ,Ewch drwy'r glwyd a dilynwch y llwybr i fyny i Fferm y Lan. Cerddwch drwy'r buarth ac allan i'r lôn tu draw.
Ewch yn eich blaen i lawr at glwyd fetel a ffordd. Trowch i'r chwith, a chadwch i'r chwith ar hyd y tro tuag at fynedfa fferm arall, Garth Fawr. Croeswch y gamfa, gogwyddwch i'r dde, yna dilynwch y llwybr llaw chwith i fyny drwy adfeilion adeiladau fferm. Daliwch i ddringo'n raddol nes cyrraedd y pwynt mesur ar Ben y Garth.
Mae'r olygfa'n annisgwyl ac yn ddramatig. Wrth i chi droi cylch llawn ar fryncyn y pwynt mesur, mae esgeiriau cymoedd y Rhondda, Cynon a Thaf yn ffurfio ymyl dysgl anferth. I'r de, rhychwant eang yr arfordir, gydag ynysoedd Echni a Ronech i'r chwith a Gwlad yr Haf yn y pellter.
Mae gennych ddewis o ddwy ffordd yn ôl, y naill tua'r un hyd a'r llall; fe'u disgrifir isod.
DEWIS 1 O fryncyn y pwynt mesur, trowch i wynebu'r môr. Ychydig islaw'r bryncyn mae llwybr-defaid, yn croesi'r brig. Ewch i'r chwith ar hyd y llwybr hwn, yn arwain tuag at Ffynnon Taf, yna dilynwch y llwybr llaw dde, sy'n arwain i lawr at fan lle mae creigiau'n brigo. Gogwyddwch i'r dde cyn y creigiau brig, ar hyd llwybr cul sy'n dilyn amlin y bryn.
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Ewch yn eich blaen nes dod at ffrwd a chwymp dwr bychan, gogwyddwch i'r chwith a disgynnwch i'r ffordd. Trowch i'r chwith ar y ffordd i lwybr cyhoeddus ar y llaw dde. Croeswch y cae tuag at glwyd sy'n arwain i mewn i dir coediog; trowch i'r chwith ar ôl y glwyd a dilynwch y llwybr troellog sy'n disgyn drwy'r coed. Dyma Goed Rhiw'r Ceiliog, a ddyfarnwyd yn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Neilltuol, gwarchodfa i nifer o blanhigion prin.
Daw'r llwybr allan ar ffordd. Trowch i'r dde heibio i nifer o dai a cherddwch heibio i faes chwarae o flaen cilgant o dai. Ewch yn eich blaen i'r ffordd fawr a throwch i'r chwith ar y gyffordd. Ewch yn eich blaen heibio i faes chwarae arall, trowch i'r chwith ar y llwybr-troed cyhoeddus a dychwelwch i'r orsaf.
DEWIS 2 O'r pwynt mesur, ewch ar i waered, gan anelu i gyfeiriad yr arfordir. Mae'r ffordd hon yn gwyro i'r dde, gan fynd heibio i ffermydd ac yn arwain i lawr at gyffordd-T ar y ffordd fawr. Dilynwch y ffordd yn syth o'ch blaen am ychydig lathenni, yna croeswch y gamfa yn y berth i'r chwith. Ewch yn groeslinol tua'r dde ar draws y cae, croeswch y gamfa nesaf a gogwyddwch i'r dde tuag at y tir coediog.
|
|
|
|
|
|
|