Seremoni o fynd â phenglog ceffyl wedi ei addurno efo rhubanau a'i wisgo mewn cynfas wen yw'r "Fari" - ac mae 'na amrywiaethau ar y math hwn o weithgaredd tu allan i Forgannwg - i gyd yn gysylltiedig â chyfnod rhwng y Nadolig a'r Ystwyll. Y gred gyffredinol yw bod yr arferion yn mynd yn ôl i gyfnodau paganaidd - i gyd fynd ag "ail-eni'r haul" sef y cyfnod pan fydd y dydd yn ymestyn.
Mae gan y Fari ei gosgordd swyddogol - ac mae'r rhain yn amrywio o ardal i ardal. Ond mae yno bob amser un sy'n "tywys" y ceffyl, sef y Sarjiant. Yn naturiol mae un person o dan y clogyn gwyn ac mae hefyd nifer o bobl eraill yn cyd-gerdded efo'r Fari o dy i dy ac o dafarn i dafarn.
Y drefn ydi fod raid i'r parti ganu pennill tu allan i ddrws y lle mae nhw am gael mynd i mewn iddo ac yna fe fydd rhywun yn ateb o'r tu mewn, eto ar ffurf pennill. Mae nhw'n herio ei gilydd bob yn sil, hyd yn oed ar dl i'r parti gael dod i mewn i'r ty - ac yn y gwreiddiol roedd y penillion yn cynnwys geiriau yn y Wenhwyseg, sef tafodiaith yr ardal ac ardal "Y Fari". Penglog "Y Fari" o Bentyrch sydd i'w gweld yn Sain Ffagan, rhodd gan Twm a Shoni Caerwal.
Mae'r arferiad wedi bod ar ei gryfaf yn ardal Llangynwyd, ger Maesteg. Mae 'na seremonïau tebyg yn Sir Benfro, ond fod y pen ceffyl yn wahanol yno, chwe ardal yn Lloegr, rhai yn yr Iwerddon, Gwledydd Llychlyn, Awstria, Rwmania a Gwlad Pwyl a'r Almaen.
i) Rhai o'r geiriau y mae Don Llywelyn, yn eu cofio o benillion Twm a Sioni, Caerwal, Pentyrch. Mae'r rhain o gyfnod y 1940'au - ac yn debygol o fod yn henach o lawer na hynny. Wel dyma ni'n dwad Mae gen i un Fari Does gen ti ddim Mari
|
O beth yw dy switan O stopwch eich sgrechan Mae'th gegaid o eiria O stwffa'r hen ffilcas |